Bordeaux Coch (Cefndir Gwyn) Print nifer cyfyngedig heb mownt gan Rhys Bevan Jones

Bordeaux Coch (Cefndir Gwyn) Print nifer cyfyngedig heb mownt gan Rhys Bevan Jones

Pris arferol £40.00 £0.00 Pris yr un yr un
Mae treth yn gynwysedig.
Print nifer cyfyngedig mewn pen ac inc digidol, a ysbrydolwyd gan y môr coch o gefnogwyr o Gymru aeth i Bordeaux i gefnogi tîm Cymru yn eu gêm cyntaf yn yr Ewros yn 2016.

Mae Rhys yn gweithio ac ymchwilio ym maes seiciatreg yng Nghaerdydd, ond mae hefyd wedi ennill llwyddiant yn y byd celf. Mae ganddo ddiddordeb yn y berthynas rhwng seicoleg/seicatryddiaeth a'r byd gweledol, ac mae ei argraffiadau yn seiliedig ar themâu fel cyflwr a salwch meddwl a hunaniaeth. Mae wedi arddangos ei waith yn Llundain a Chymru, gan gynnwys yr Eisteddfod Genedlaethol ac arddangosfa flynyddol 'Association of Illustrators' Prydain, ac wedi derbyn nifer o gomisiynau ar gyfer cylchgronau a llyfrau ledled y wlad.
Mae wedi astudio yng ngholegau celf megis St Martins a Kingston yn Llundain, lle ennillodd gradd dosbarth cyntaf. Mae bellach yn ymchwilio i'r defnydd o ddarluniau ac aml-gyfryngau yn y byd ymchwil, therapi ac addysg ar gyfer cleifion, meddygon, a'r cyhoedd yn gyffredinol.

Maint y Print:  37cm x 27cm