Print heb fownt 'You simply must...' gan Ag Cain
Pris arferol
£13.00
Mae treth yn gynwysedig.
Poster mewn steil retro-modern gan yr artist ac arlunydd Ag Cain wedi'i ysbrydoli gan hysbysebion yr oes a fu.
Print heb fownt yn mesur: 42cm x 29.5cm
Mae Ag Cain bellach yn byw a gweithio ym Mhontarfynach, ond treuliodd nifer o flynyddoedd yn gweithio fel artist llythrennu ac arlunydd llawrydd yn y diwydiant ffilmiau, ym Mhrydain a thu hwnt. Ei hoffter o bosteri ac arwyddion enamel o'r cyfnod cyn rhyfel, â'u hyder, hiwmor, ac optimistiaeth nodweddiadol sydd wedi ysbrydoli'r gyfres hon o weithiau, sy'n portreadu Aberystwyth a'i chyffiniau mewn ffordd annwyl.