
Mat diod seramig 'Gwalch y pysgod 1' gan Josie Russell
Pris arferol
£5.00
Mae treth yn gynwysedig.
Mat diod sgwâr hardd seramig gydag
arwyneb sglein uchel y gellir ei sychu â lliain gan yr artist tecstiliau
o Wynedd Josie Russell, gyda'i chynllun 'Gwalch y pysgod 1/ Osprey 1'. Gyda
phadiau oddi tano i amddiffyn eich bwrdd.
Artist tecstiliau llawrydd sy'n byw a gweithio yng Ngwynedd yw Josie Russell. Eichariad at anifeiliaid a'r amgylchfyd, a'i gwerthoedd moesegol ac ecolegol sy'n dylanwadu ac ysbrydoli ei gwaith. Mae'n defnyddio edafedd, botymau, gleiniau, rhubanau, a deunyddiau trawiadol i greu ei gweithiau lliwgar.
Maint y mat diod: 10cm x 10cm