'Family First' gan Ruth Alexandra Symes
Gwŷr, gwragedd, tadau, mamau, plant, brodyr a chwiorydd, cyfain a chyfnitheroedd, teidiau a neiniau- perthnasau hyn yw strwythur coeden achau. Faint yr ydyn ni'n wir yn gwybod am ffordd o fyw ein hynafiaid? Am nifer o resymau, megis datblygiadau economaidd, newidiadau cyfriethiol, gwelliannau meddygol, roedd y cydberthynas rhwng aelodau'r teulu yn wahanol ers talwm. Gall y llyfr hwn eich helpu i daflu goleuni ar amgylchiadau eich hynafiaid, sut i fynd ati i olrhain a dehongliu'r berthynas rhwng aelodau eich teulu, gan ateb dirgeloedd megis sut i ddod o hyd i rywun os nad mo'i enwir ar dystysgrif geni? Sut y cofnodwyd lluosgenedigaethau a genedigaethau marw? Pam yr arferwyd enwi plantyn y ffordd a wnaethpwyd? A oedd hi'n gyfreithlon i briodi cefnder neu gyfnither? Faint oedd disgwyliad einioes y gorffennol?