Hinterland - Y Drydedd Gyfres

Hinterland - Y Drydedd Gyfres

Pris arferol £19.99 £0.00 Pris yr un yr un
Mae treth yn gynwysedig.
Drama dditectif, dywyll wedi'i lleoli yn sir Ceredigion yng ngorllewin Cymru yw Hinterland, sy'n dilyn DCI Tom Mathias a DI Mared Rhys wrth iddyn nhw fynd i'r afael â dirgeloedd, hanner-gwir a thrywyddau anghywir. Mae pob pennod 90 munud wedi cael ei ysgrifennu, ei ffilmio a'i ddarlledu yn Gymraeg ac yn Saesneg, ar S4C a BBC yn ôl ei gilydd, a bellach mae 'Hinterland' yn cael ei darlledu ar draws 100 o wledydd ac yn denu twristiaid i Geredigion o bob cwr o'r byd. Mae golygfeydd hynod Aberystwyth yn cuddio llyw o bechodau, a gwaith DCI Tom Mathias yw i

ymchwilio a ddod o hyd i'r troseddwyr sydd yn peryglu bywydau a bywiolaethau'r gymuned leol.  Drama dditectif gelfydd a stori am waed, pridd a pherthyn- dyma hanfod y Gwyll.

Ar ôl diweddglo dramatig yr ail gyfres, dyma ail-ymuno â DCI Tom Mathias wrth iddo geisio gwella ei iechyd meddwl a'i anafiadau.  Ers i'r noddfa fach yng nghefn gwlad Ceredigion yr oedd wedi ffeindio iddo fe ei hun gael ei dinistrio, mae Mathias bellach yn byw yng nghanol tref lan-môr Aberystwyth.  Yn y drydedd gyfres, caiff Mathias ei daflu nôl mewn i achos sydd wedi ennyn ei chwilfrydedd ers talwm- achos sy'n peryglu ei berthynas rhyngddo ef a'i dîm. Ond tra bod Mathias yn tyrchu i'r gorffennol, mae'n rhaid i DS Sian Owens fynd i'r afael ag achos cyfoes-pwy ymosododd ar DCI Mathias?