Blanced ben-glin a phatrwm sgwarog glas a hufen
Blanced 100% gwlân fydd yn berffaith i greu golwg chwaethus yn y cartref, ond hefyd yn hyfryd i gadw eich coesau'n gynnes neu i gwtsio lan ar nosweithiau mewn gyda 'box-set'!
Maint: 70 x 183cm
100% gwlân
Cwmni sy’n gwneuthurio tecstiliau o ansawdd yn y DU, wedi’i lleoli yn Sir Fflint- ond sy’n cyflenwi cwsmeriaid ym mhob ban o’r byd- yw Tweedmill. Mae’r brand wedi mynd o nerth i nerth, ac mae ei nwyddau’n aml yn ymddangos yn y wasg ac mewn cylchgronau a rhaglenni teledu yn benodol. Cadwch lygad wrth wylio eich hoff raglan y tro nesaf! Yn ôl cyfarwyddwr Tweedmill, Bart Ryan Beswick, lleoliad y cwmni ar lannau’r afon Dyfrdwy ger y Castell, sy’n ysbrydoli’r cynlluniau trawiadol, a’i hanfod yw creu nwyddau moethus sy’n cynnig gwerth am arian. Mae Siop y Llyfrgell Genedlaethol bellach ymhlith y sawl sy’n gwerthu ei nwyddau.