Wynne Evans - O Gaerfyrddin i 'Go Compare' gan Elin Meek

Wynne Evans - O Gaerfyrddin i 'Go Compare' gan Elin Meek

Pris arferol £4.99 £0.00 Pris yr un yr un
Mae treth yn gynwysedig.

Mae'r gyfrol hon yn rhan o gyfres newydd o lyfrau yn arbennig i oedolion o Amdani. Cofiant Wynne Evans, wedi'i ysgrifennu mewn arddull cyfweliad yn y Gymraeg. Hanes personol ag onest iawn o Wynne a'i deulu, ei brofiadau fel canwr opera, cyflwynydd teledu a radio a'r cymeriad adnabyddus Gio Compario yn yr hysbysebion teledu 'Go Compare', yn ogystal â straeon am ei fywyd - yr amseroedd da, yr amseroedd doniol, yr amseroedd trist a'i ymdrechion i ddysgu Cymraeg.

Mae'r wybodaeth wedi'i gosod allan yn glir gyda geirfa ar waelod pob tudalen, a phob gair sy'n ymddangos yn yr eirfa wedi'i argraffu mewn print trwm yn y darn. Llyfr gwych i ddysgwyr wella eu gramadeg a geirfa Gymraeg.