'Teach your cat Welsh' gan Anne Cakebread

'Teach your cat Welsh' gan Anne Cakebread

Pris arferol £4.99 £0.00 Pris yr un yr un
Mae treth yn gynwysedig.

Mae'r llyfr bach ysgafn hwn, yn eitem hanfodol i ddysgwyr Cymraeg o bob oedran. Gyda lluniau lliw llawn, geiriau a chanllawiau ynganu ar gyfer pob ymadrodd i chi ymarfer eich Cymraeg gyda'ch cyfaill blewog gorau. Yr anrheg berffaith ar gyfer pobl sy'n caru cathod!

Mae Anne Cakebread yn ddarlunydd gyda dros 20 mlynedd o brofiad. Mae ei lluniau wedi ymddangos mewn nifer o lyfrau a chylchgronau, ac mae hi wedi gwneud gwaith celf ar gyfer hysbysebion a dylunio setiau. Fe’i magwyd yn Radyr, Caerdydd ac mae bellach yn rhedeg Gwely a Brecwast bwtîc o'r enw Oriel Milgi yn St Dogmaels yn ogystal ag oriel gelf 'Canfas' yn Aberteifi. Hefyd yn y gyfres hon - 'Teach your Dog Welsh', 'Teach Your Dog Irish', 'Teach your Dog Gaelic', 'Teach your Dog Cornish', 'Teach your Cat Manx', 'Teach your Dog French', 'Teach your Dog Spanish', 'Teach your Dog Māori', 'Teach your Dog Korean', 'Teach your Dog Japanese'.