Gwybodaeth i Gwsmeriaid

GOSOD ARCHEB

Archebu a thalu am eich archeb

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn derbyn taliadau drwy gerdyn debyda cherdyn credyd yn unig. Bydd cadarnhad o'ch taliad yn cael ei anfon drwy e-bost, gan gynnwys rhif cyfeirnod. Defnyddiwch y cyfeirnod hwn mewn unrhyw ohebiaeth ynghylch eich archeb os gwelwch yn dda.


POLISI DYCHWELYD

Os nad ydych yn hapus gyda'ch pryniant, medrwch ei dychwelyd atom o fewn 28 diwrnod. Byddwn yn ei gyfnewid neu yn rhoi ad-daliad llawn. Defnyddiwch y pecyn gwreiddiol gan amgáu'r holl ddogfennau gan gynnwys eich derbynneb a nodyn yn egluro'r rheswm dros ddychwelyd, ac os yw yn ddiffygiol, disgrifiwch y bai. Dychwelwch unrhyw nwyddau diffygiol o fewn 14 diwrnod ar gyfer ad-daliad neu am newid os gwelwch yn dda.

Gall DVDs, CDs a CD-Roms dim ond cael eu dychwelyd os ydynt heb eu hagor ac yn eu cyflwr gwreiddiol, onibai eu bod yn ddiffygiol, neu ein bod wedi eu danfon mewn camgymeriad.

Os ydych yn dychwelyd eitem oherwydd ei bod yn ddiffygiol neu oherwydd ein bod wedi gwneud camgymeriad, byddwn yn ad-dalu'r costau postio. Fel arall, byddwch yn gyfrifol am gostau o'r fath.

I ddychwelyd eitemau, anfonwch nhw at:

Y Siop, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth,Ceredigion, SY23 3TD, Y Deyrnas Unedig

Canslo Eitemau

Mae gennych yr hawl i ganslo'r cytundeb ar gyfer prynu ar unrhyw eitem o fewn saith diwrnod o’i dderbyn. Sylwch na all DVDs, CDs a CD-Roms yn cael ei ganslo unwaith y bydd y sêl wedi ei dorri.

I ganslo eich contract, dychwelwch yr eitem gyda nodyn yn egluro y rhesymau am ycanslo i:

Y Siop, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth,Ceredigion, SY23 3TD, Y Deyrnas Unedig

Sylwer, bydd y pris prynu yr eitem yn cael ei ad-dalu, ond nid unrhyw gostau postio a gafwyd yn ystod ein postio i chi, neu eich postio ini.

Diogelu Data

Pan fyddwch yn siopa ar y wefan hon, byddwn yn gofyn i chi ddarparu gwybodaeth benodol megis eich enw, cyfeiriad, rhif ffôn, manylion y cerdyn talu a chyfeiriad ebost. Mae'r rhain yn cael eu pasio trwy system ddiogel, amgryptio gwybodaeth; mae'r holl daliadau yn cael eu gwneud drwy World Pay, gan warantu diogelwch eich gwybodaeth. Nid ydym yn prosesu manylion eich cerdyn credyd ar ein gweinydd ac unwaith y bydd eich archeb yn gyflawn, bydd yr holl fanylion perthnasol yn cael eu dileu o'n system.

Google Analytics

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru (LlGC) yn defnyddio Google Analytics ar ein gwefannau er mwyn casglu gwybodaeth ystadegol. Ni fydd LlGC yn defnyddio'r wybodaeth a gesglir trwy Google Analytics i geisio adnabod unrhyw un o'n defnyddwyr y we, ac ni fyddwn yn caniatáu i unrhyw drydydd parti i wneud hynny.

Diolch i chi am ymweld â'n siop ar-lein.