Ble mae Boc? - Ar goll yn y chwedlau gan Huw Aaron
Pris arferol
£4.99
Mae treth yn gynwysedig.
Mae Boc y ddraig bach, wedi mynd ar goll unwaith eto - y tro yma mewn bydoedd dychmygol Cymru. Ewch ati i chwilio amdani ym myd y Mabinogi, Cantre'r Gwaelod, Teyrnas y Tylwyth Teg a llawer mwy! Mae pob tudalen yn dangos golygfa lawn dop, gyda'r nod o ddod o hyd i Boc, sy'n cuddio ym mhob llun. Mae cyfle i chwilio am bethau eraill yn y lluniau hefyd, yn ogystal â thrafod a holi cwestiynau. Cyfrol debyg i'r llyfrau Where's Wally?