![Print heb fownt 'Cofeb Tryweryn / Tryweryn Memorial' gan John Meirion Morris](http://shop.library.wales/cdn/shop/files/20231120105140122_0001_{width}x.jpg?v=1700477282)
Print heb fownt 'Cofeb Tryweryn / Tryweryn Memorial' gan John Meirion Morris
Print heb fownt wedi'i atgynhyrchu yn arbennig i'r Llyfrgell Genedlaethol
yn unig, gyda cherflun trawiadol 'Cofeb Tryweryn / Tryweryn Memorial' gan John Meirion Morris.
Dadorchuddiwyd arddangosfa gyffrous newydd yn ddiweddar sy'n dathlu eisiamplau o'r Celf gyfoes o Gymru a gedwir yng nghasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn cynnwys detholiad o weithiau celf sy'n dyddio o'r cyfnod 1945 hyd yr oes bresennol, wedi'u curadu yn arbennig. Gellir ymweld â'r arddangosfa 'Cyfoes' yn Oriel Gregynog y Llyfrgell am ddim, o 28ain Hydref 2023 hyd 23ain Mawrth 2024.
Mae'r Llyfrgell yn gweithio ar y cyd â phartneriaid i ddatblygu Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol i Gymru, ac mae'r arddangosfa hon yn dangos enghreifftiau o'r gweithiau celf fydd ar gael i orielau ledled Cymru eu benthyg o'r Llyfrgell.