
'Dail Te' gan Mared Lewis
Pris arferol
£5.99
Mae treth yn gynwysedig.
Mae'r nofel hon yn rhan o'r gyfres 'amdani' ar
gyfer dysgwyr Cymraeg (lefel Sylfaen). Nid yw Sara eisiau dweud celwydd wrth ei
gŵr, Terry. Ond mae pethau'n anodd ers iddo golli ei swydd a phan mae hi'n
gweld hysbyseb mewn ffenestr siop mae ganddi syniad. Mae hi'n cofio 'Nain', a
arferai ddarllen dail te. Mae Sara'n newid i Serena, ond a all hi newid ei
bywyd er gwell?
Cyfres o lyfrau i oedolion sy'n dysgu Cymraeg yw
Cyfres 'Amdani'. Mae'r llyfrau ar bedwar lefel - Mynediad, Sylfaen, Canolradd
ac Uwch.