Geiriadur Gwybod y Geiriau gan D Geraint Lewis
Pris arferol
£7.99
Mae treth yn gynwysedig.
Mae'r geiriadur clawr caled hwn, wedi'i ddarlunio'n lliwgar, yn cwrdd â gofynion y Cwricwlwm Cenedlaethol ar gyfer plant Cyfnod Allweddol 2, 8-10 oed, er bod y geiriadur yn bennaf ar gyfer plant ysgolion cynradd hŷn, byddai plant ysgol uwchradd hefyd yn gweld y gyfrol hon yn ddefnyddiol.
Gyda 1500 o ddiffiniadau gan gynnwys enwau, ansoddeiriau, berfau, ymadroddion ac awgrymiadau defnyddiol i'ch helpu wrth ysgrifennu, mae gan bob llythyren o'r wyddor liw gwahanol ar ymyl y tudalen. Mae hwn yn eiriadur hynod ddefnyddiol, sydd wedi'i argraffu yn ddwyieithog.
Cyfrol hanfodol i'w defnyddio yn yr ysgol a gartref.