Postcard 'Deffrwch y Bastads mae Cymru'n marw'
Atgynhyrchiad ar ffurf cerdyn post o'r gwaith 'Deffrwch y Bastads mae Cymru'n marw' a grewyd ym 1989 gan artist neu artistiaid anhysbys. Mae'r poster yn cyfeirio at y paintiad gwreiddiol 'Salem' (1909) gan Curnow Vosper. Mae'r paentiaid hwnnw yn adlewyrchu'r ffordd Gymreig o fyw a'r draddodiad anghydffurfiol yng Nghymru, ac fe'i hystyrir fel delwedd eiconig. Mae rhai yn honni bod y diafol wedi'i bortreadu ym mhlyg sgarff gwrthrych y paentiad, a bu atgynhyrchiadau ohono i'w cael mewn cartrefi ledled Cymru.
Wedi'i gomisiynu'n arbennig gan y Llyfrgell Genedlaethol i gyd-daro a'i harddangosfa 'Dim Celf Cymreig-No Welsh Art' (16/11/24-6/9/25) o gasgliad personol yr artist a hanesydd celf Peter Lord, pa ffordd well o rannu cofrodd o'r arddangosfa na'r atgynhyrchiad hwn?
Mesuriadau: 10.5cm x 14.75cm