Welsh for Beginners (Internet-Linked) gan Angela Wilkes & John Shackell

Welsh for Beginners (Internet-Linked) gan Angela Wilkes & John Shackell

Pris arferol £7.99 £0.00 Pris yr un yr un
Mae treth yn gynwysedig.

Oeddech chi'n gwybod Cymraeg ydy un o ieithoedd hynaf Ewrop? Mae'r llyfr hwn yn dangos i chi fod dysgu Cymraeg yn llawer haws nag y byddech chi'n meddwl, trwy ddysgu Cymraeg sy'n ddefnyddiol i chi mewn sefyllfaoedd bob dydd.

Mae'r teitl diwygiedig hwn yn gysylltiedig â'r rhyngrwyd, ond nid yw'n hanfodol gan fod y llyfr hwn yn llyfr iaith hwyliog ac addysgiadol ar ei ben ei hun, efo darluniau lliwgar gan John Shackell. Trwy gydol y llyfr hwn, mae yna argymhellion ar gyfer gwefannau defnyddiol i chi ddysgu Cymraeg a darganfod mwy am Gymru. Mae'r gramadeg wedi'i esbonio yn glir, a gyda chymorth ar-lein, gallwch wrando ar eiriau ac ymadroddion Cymraeg, gwella eich Cymraeg gyda gwersi ac ymarferion, datrys posau a chwarae gemau, gwrando ar ganeuon Cymraeg a darllen straeon Cymraeg.

Mae'r awdur, Angela Wilkes yn awdur a golygydd sy'n enwog am lyfrau bywiog a gafaelgar.

Lluniau gan John Shackell, darlunydd ers dros 40 mlynedd, mae ei waith wedi ymddangos mewn mwy na 250 o deitlau plant.