
'Y Llyfr' gan Pegi Talfryn
Pris arferol
£7.99
Mae treth yn gynwysedig.
Mae'r nofel hon yn rhan o gyfres 'Amdani' ar gyfer dysgwyr Cymraeg (lefel Sylfaen).
Mae bywyd Emma yn newid yn llwyr pan ddaw hi ar draws hen lyfr yng nghartref ei mam yn Newcastle upon Tyne. Mae'r llyfr rhyfedd hwn yn ei harwain ar daith i Gymru - gwlad nad yw ei mam byth eisiau clywed amdano eto! Nofel ddirgelwch yw hwn am ferch ifanc sy'n dod i Gymru i ddechrau ei thaith yn dysgu'r iaith Gymraeg, dysgu diwylliannau newydd ac yn darganfod cyfrinachau am deulu ei mam – oedd yn frodor o Gymru sydd wedi gadael y wlad flynyddoedd yn ôl.
Cyfres o lyfrau i oedolion sy'n dysgu Cymraeg yw Cyfres 'Amdani'. Mae'r llyfrau ar bedwar lefel - Mynediad, Sylfaen, Canolradd ac Uwch.