Priodi yn y Llyfrgell
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cynnig lle ysblennydd i un o ddiwrnodau pwysicaf eich bywyd. Rydych yn gallu dewis rhwng ystafelloedd ysblennydd ar gyfer eich seremoni. Ystafell gelf “art nouveau” gyda paneli derw yw Siambr y Cyngor a all gynnwys hyd at 100 o westeion. Gellir ei osod allan mewn dwy arddull wahanol yn dibynnu ar eich dewis. Mae Ystafell y Llywydd yn cynnig naws mwy cartrefol ac yn gallu darparu ar gyfer hyd at 30 o westeion. Mae'r ddwy ystafell yn darparu golygfeydd heb eu hail dros dref Aberystwyth a Bae Ceredigion.
Bydd gerddi a’r golygfeydd panoramig o'r Llyfrgell yn darparu'r cefndir delfrydol ar gyfer lluniau priodas a’ch atgofion. Bydd Cydlynydd Priodas y Llyfrgell yn gallu cynnig cymorth ar sut i drefnu eich seremoni yn y Llyfrgell.
Os hoffech gael canapés a diodydd derbyniad ar ôl y briodas neu os oes gennych unrhyw ofynion arbennig eraill, mae croeso i chi eu trafod gyda'r Cydlynydd Priodas, drwy e-bost: priodas@llgc.org.uk neu ffoniwch ar 01970 632801.
Beth am ddylunio eich deunydd ysgrifennu priodas eu hunain, er mwyn rhoi eich diwrnod arbennig y teimlad personol; gall yr Adran Reprograffeg argraffu eich gwahoddiadau, trefn gwasanaeth, lleoliadau a nodiadau diolch. Gallwn roi’r cyffyrddiad personol a safon broffesiynol. Beth am ffonio 01970 632850 i drafod eich gofynion unigol.
Yn Siop y Llyfrgell, gallwch brynu eich anrhegion priodas arbennig gan gynnwys llwyau caru personol gyda eich neges eich hun. Ac ar gyfer ar ôl y diwrnod mawr, beth am storio eich atgofion mewn Priodas Blwch, gyda addurn brodwaith wedi'u gwneud â llaw neu eich lluniau mewn Albwm Lluniau a bocs cadw, y ddau wedi eu gwneud o bapur hyfryd 'Lokta' a wnaed â llaw.
Mae'r siop hefyd yn cynnig gwasanaeth y rhestr briodas - e-bostiwch siop@llgc.org.uk neu ffoniwch i siarad ag un o'n cynorthwywyr am ragor o wybodaeth.